Atodiad C: Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Asesiad Effaith Integredig ar Gyllideb 2016-17

 

Trosolwg o’r portffolio

 

Mae'r Adran yn cefnogi'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ddatblygu a chyflwyno polisïau sy'n darparu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy i Gymru ac yn cynnig sylfaen ar gyfer ymyriadau eraill gyda'r nod o wella canlyniadau iechyd a lles i bobl Cymru.

 

Mae'r portffolio yn cynnwys rhai o'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer y GIG gan ganolbwyntio ar sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau, gwella mynediad at wasanaethau a phrofiadau cleifion, ac atal afiechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bawb. Mae ein penderfyniad i ddyrannu cyllid ychwanegol o £293m ar gyfer iechyd yn 2016-17 yn cydnabod bod darparu setliad iechyd digonol a chynaliadwy yn ystyriaeth hollbwysig i gymdeithas yn gyffredinol, ac mae hefyd yn cydnabod yr effeithiau cadarnhaol anghymesur ar grwpiau gwarchodedig. Defnyddir y cyllid hwn i gynnal mynediad at wasanaethau acíwt o safon pan fo’u hangen, i hyrwyddo datblygiad parhaus gwasanaethau sylfaenol a chymunedol yn nes at adref ac i gynyddu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a phobl hŷn. Fel y nodwyd gennym y llynedd, mae ymchwil yn awgrymu bod gwariant ar wasanaethau cyhoeddus megis iechyd ac addysg yn lleihau anghydraddoldeb drwy fod o fwy o fudd i gartrefi incwm isel na chartrefi cyfoethog. Gellir mesur yr effaith gyfartalu yn ei chyfanrwydd, ac effaith rhaglenni gwariant gwahanol, a gellir gosod rhaglenni yn eu trefn o’r rhai sy’n fwyaf ffafriol i bobl dlawd i’r rhai mwyaf ffafriol i bobl gyfoethog. Mae'r GIG yn gwario mwy y pen ar bobl hŷn ac ar blant ifanc, ac mae cartrefi sy’n cynnwys unigolion o’r ddau fath i’w gweld yn fwy aml mewn grwpiau incwm is na'r cyfartaledd.

 

Mae lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau iechyd plant a theuluoedd sy'n byw mewn cartrefi incwm isel a mynd i'r afael â'r ddeddf gofal wrthgyfartal yn ganolog i amcanion ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Nod y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw hyrwyddo, diogelu a gwella iechyd a lles pawb yng Nghymru drwy ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel, gan gynnwys cyllido GIG Cymru a gosod fframwaith strategol ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a phlant yn ogystal â rheoleiddio a hyfforddi’r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae'r portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn darparu cymorth sylweddol i'r sector gwirfoddol yng Nghymru.

 

Lle ceir anghydraddoldebau iechyd, rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r dylanwadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol sy'n effeithio ar iechyd a lles.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Proffil Gwariant

 

Terfyn DEL Adnoddau Cyllidol      

 

Maes Rhaglenni Gwariant

Cyllideb Atodol Gyntaf 2015-16

Newidiadau 2016-17

Cynlluniau Newydd y Gyllideb Ddrafft 2016-17

 

£m

£m

£m

Darpariaeth y GIG

6018.229

244.851

6263.080

Cyllidebau Canolog Iechyd

231.155

(0.464)

230.691

Iechyd y Cyhoedd ac Atal

158.576

0.334

158.910

Gwasanaethau Cymdeithasol

68.470

(0.075)

68.395

CAFCASS Cymru

10.162

-

10.162

Cyfansymiau

6486.592

244.646

6731.238

 

Newidiadau Allweddol i Wariant

 

 

Iechyd - Effeithiau

 

Mae gwariant ar y GIG yn bwysig ond nid yw darparu gofal o safon uchel pan fydd pobl yn sâl ond yn rhan o'r ateb i iechyd da. Mae gennym hefyd gyfrifoldeb ar y cyd i atal afiechyd rhag digwydd lle bo'n bosibl. Mae ffocws o'r newydd ar atal yn arbennig o bwysig pan ystyriwn yr angen i ddiogelu iechyd plant a phobl ifanc yn y dyfodol. Nodwyd pwysigrwydd ailgydbwyso'r system iechyd yng Nghymru tuag at atal mewn nifer o ddogfennau strategol allweddol gan gynnwys Law yn Llaw at Iechyd.

 

Mae ffocws ar atal ar draws rhaglenni strategol a pholisïau Llywodraeth Cymru yn gwbl gyson ag egwyddorion gofal iechyd darbodus, gan ei fod yn ymwneud â rhoi camau ar waith ar bwyntiau sy'n gwneud y gorau o’r potensial ar gyfer manteision hirdymor, o ran cynnydd iechyd a lleihau'r costau hirdymor uwch sy'n gysylltiedig â salwch y gellir ei atal. Mae gwaith ataliol hefyd yn elfen hollbwysig yn y bartneriaeth newydd rhwng y llywodraeth a'r cyhoedd,

lle mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddarparu a hyrwyddo amodau cymdeithasol sy'n gydnaws ag iechyd da, gyda chyfrifoldeb cyfatebol ar bob un ohonom fel unigolion i weithredu mewn ffyrdd sy'n hybu ac yn diogelu ein hiechyd a'n lles ein hunain.

 

Mae ein gweithgarwch yn y maes hwn yn amrywio o raglenni sy'n canolbwyntio ar hybu negeseuon cadarnhaol ynghylch ffordd o fyw a chynorthwyo pobl i fod yn fwy gwybodus ynglŷn â’u hiechyd a'u lles, i raglenni imiwneiddio a brechu, cefnogi gwasanaethau iechyd cyhoeddus ataliol megis gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu, a rheoleiddio agweddau ar yr amgylchedd cymdeithasol ehangach. Mae hyn hefyd yn golygu gweithio mewn partneriaeth agos gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, sefydliadau eraill y GIG, awdurdodau lleol a sefydliadau'r sector gwirfoddol.

 

Gan fod y GIG yn wasanaeth rhad ac am ddim yn y man defnyddio, bydd y cyllid ychwanegol a neilltuir yn 2016-17, yn ogystal â'r cyllid craidd presennol a ddyrennir i Fyrddau Iechyd, yn cyfrannu’n sylweddol at yr agenda trechu tlodi ac anghydraddoldeb. Mae gwaith i atal afiechyd y mae modd ei osgoi hefyd yn cyfrannu’n allweddol at yr agenda hon, gan fod llawer o'n blaenoriaethau iechyd cyhoeddus yn effeithio’n anghymesur ar yr unigolion, y teuluoedd a’r cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae enghreifftiau o weithredu trawslywodraethol o’r fath yn cynnwys ehangder y camau a ddatblygir drwy’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi a Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb.

 

Gyda’r tueddiadau'n dangos galw cynyddol yn y nifer sy'n cael eu trin am salwch, gofal heb ei drefnu a gofal cymdeithasol, a chan gydnabod ar yr un pryd yr effeithiau cadarnhaol sylweddol ar grwpiau gwarchodedig, rydym wedi mynd ati mewn modd integredig i ddyrannu cyllid i Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ein dull yw helpu dinasyddion i fod yn gyfrifol am eu hiechyd a'u lles drwy’r dull cydgynhyrchu, yn ogystal â datblygu GIG wedi’i arwain gan ofal sylfaenol a gofal cymunedol ataliol. Geilw hyn am newid adnoddau ariannol ac adnoddau’r gweithlu’n barhaus er mwyn darparu mwy o ofal iechyd yn y gymuned. Mae'r dull hwn yn cynnwys mwy o gydweithio rhwng y gwasanaethau iechyd, llywodraeth leol, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Dylid darparu gwasanaethau yn y cartref neu’n agos at adref, a’u cynllunio i atal problemau a chanfod afiechyd yn gynnar, osgoi'r angen am ofal ysbyty a chefnogi rhyddhau cleifion yn amserol o’r ysbyty, a galluogi pobl i farw mewn man gofal o’u dewis megis yn eu cartrefi eu hunain. Mae mwyafswm helaeth o’r gwariant sy’n gysylltiedig â’r dull hwn yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol i'r GIG yn y grant bloc. Nod y fframwaith polisi yw llywio cyfluniad gwasanaethau'r GIG a’r adnoddau hynny tuag at y model hwn sy'n canolbwyntio ar ofal sylfaenol a chymunedol.

 

Ar gyfer y cyllid GIG ychwanegol o £200m i Gyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd, bydd yn ofynnol i bob Bwrdd Iechyd ystyried effaith eu penderfyniadau gwariant pan bennir eu prif ddyraniadau yn rhan o Ddyraniadau Refeniw Byrddau Iechyd a gyhoeddir yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr.

Bellach mae’n rhaid i bob Bwrdd Iechyd lunio cynllun integredig tair blynedd ac fel rhan o'r gofynion cynllunio yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru mae'n ofynnol iddynt ddangos sut mae eu cynllun integredig yn adlewyrchu cyfrifoldebau Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n ofynnol felly i’r Byrddau Iechyd ddangos sut maent yn ystyried pob un o'r nodweddion gwarchodedig yn rhan o'u dyletswydd o dan y Ddeddf gan sicrhau hefyd fod hawliau plant yn cael eu hystyried.

 

Mae Fframwaith Cynllunio’r GIG ar hyn o bryd hefyd yn cyfeirio at yr angen i ystyried cynllunio ar gyfer anghenion grwpiau penodol sy'n cynnwys:

 

Tystiolaeth ac Ymgysylltu

Nododd yr adroddiad gan Ymddiriedolaeth Nuffield a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014 ar y pwysau ariannol sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru y bydd y GIG yn parhau’n fforddiadwy os yw’n cael rhan o’r twf mewn termau real a ragwelir yn economi'r DU ac os yw’n sicrhau’r enillion o ran arbedion effeithlonrwydd a chynhyrchiant y mae Nuffield yn eu nodi fel rhai cyraeddadwy. Mae'r GIG yng Nghymru eisoes wedi cael llwyddiant sylweddol yn y meysydd hyn, drwy fesurau megis gwelliannau mewn effeithlonrwydd a chynhyrchiant, lleihau hyd cyfnodau aros yn yr ysbyty a gostyngiadau yn nifer y rhai sy’n cael eu derbyn i'r ysbyty.

 

Gofal Sylfaenol a Gofal yn y Gymuned

Mae'r mwyafswm llethol o ofal iechyd yng Nghymru yn cael ei ddarparu yn y gymuned, yn agos at gartrefi cleifion. Mae'r Gronfa Gofal Canolraddol wedi bod yn sbardun allweddol i weithio mewn partneriaeth ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol, gyda'r trydydd sector a’r sector annibynnol, ar ddatblygu gwasanaethau i helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol. Mae hyn yn cynnwys darparu gofal a chymorth yn y cartref ac yn y gymuned i osgoi derbyn cleifion i’r ysbyty yn ddiangen ac i atal achosion o oedi wrth ryddhau pobl o'r ysbyty. Drwy'r cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd, dyrennir £30m er mwyn chwyddo'r cyllid ar gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol i £50 miliwn yn 2016-17.

 

Iechyd Meddwl

Cafwyd ymrwymiad i glustnodi cyllid iechyd meddwl ers mis Medi 2008 er mwyn diogelu’r swm o arian yng nghyllideb y GIG a datganiad clir y gellir gwneud arbedion ond na ellir gwario unrhyw arbedion ar ddim heblaw’r hyn a glustnodwyd. Rydym yn parhau i gydnabod rôl bwysig y gwasanaethau iechyd meddwl yn gwella canlyniadau i gleifion. Felly, rydym wedi dyrannu £30m o'r £293m i gynyddu'r arian sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn ogystal â chyllid ar gyfer pobl hŷn. Yn unol â'n hymagwedd integredig tuag at iechyd a gofal cymdeithasol, rydym yn parhau'n ymrwymedig i’r addewid hwn er mwyn helpu i wneud gwelliannau pellach mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a gofal dementia, er mwyn sicrhau manteision i grwpiau allweddol.

 

Effeithiau

Nod Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yw mynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu a threchu anghydraddoldebau. Caiff stigma a gwahaniaethu a ddioddefir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl a salwch meddwl eu lleihau gyda’r canlyniad gweithredu ategol _ Mae pobl â nodweddion gwarchodedig a grwpiau hyglwyf yn cael mynediad teg, mae gwasanaethau’n fwy ymatebol i anghenion poblogaeth amrywiol Cymru. Gwneir cynnydd ar gamau gweithredu penodol y cynllun cyflawni yn y maes hwn.

 

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)

Mewn perthynas â'n gofynion mewn deddfwriaeth i ystyried anghenion penodol plant a phobl ifanc, mae'r ddarpariaeth o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth ar gyfer gwella. Bob blwyddyn, rydym yn parhau i neilltuo £7.65m ychwanegol ar gyfer gwella ystod y ddarpariaeth CAMHS, a fydd hefyd yn galluogi mwy o bobl ifanc sy’n gorfod mynd o Gymru i gael triniaeth ar hyn o bryd i gael yr un driniaeth yng Nghymru, gan arbed arian ar leoliadau costus o’r fath.

 

Rydym hefyd yn hyrwyddo datblygiad timau triniaeth ddwys yn y gymuned mewn modd cyson ar draws Cymru gyfan a dull cynnar o nodi seicosis a phobl ifanc mewn argyfwng yn ystod y flwyddyn hon. Mae tystiolaeth yn dangos y gallai nodi cynnar a thriniaeth yn y gymuned leihau cyfraddau derbyn i’r ysbyty a hyd arhosiad pobl ifanc sy’n ddifrifol wael. Yn gynyddol, mae ymchwil yn cadarnhau manteision allgymorth pendant ac yn cefnogi'r angen i ddatblygu trefniadau partneriaeth lleol ar draws asiantaethau. Mae hyn yn cyd-fynd ag egwyddorion gofal iechyd darbodus a lle bynnag y bo modd, pan fydd risg yn caniatáu, dylid gofalu am bobl ifanc yn y gymuned mor agos at eu cartrefi â phosibl.

 

Mae rhaglen wella CAMHS wedi bod ar waith ers 2014-15 a bydd yn parhau yn 2016-17. Geilw hyn am newid diwylliannol yn y ddarpariaeth er mwyn sicrhau y gall adnodd bach ac arbenigol CAMHS ganolbwyntio ar y rhai sydd â'r salwch meddwl mwyaf parhaus. Wrth fwrw ymlaen â hyn, bydd angen i CAMHS adeiladu, cynnal a chryfhau partneriaethau gydag asiantaethau eraill ym maes gofal cymdeithasol awdurdodau lleol ac mewn mannau eraill. Mae timau amlddisgyblaethol sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd a mentrau fel elfen iechyd Dechrau'n Deg yn hollbwysig i sicrhau bod y rhai sydd â’r angen mwyaf yn cael mynediad at CAMHS arbenigol ar y cyfle cyntaf; a sicrhau hefyd nad oes unrhyw anfantais i rai sydd â salwch meddwl ar lefel is, y gallai asiantaethau eraill ymdrin â nhw, gyda chymorth CAMHS priodol, gan leihau stigma.

 

Plant sy’n derbyn gofal a throseddwyr ifanc

Dengys tystiolaeth fod pobl ifanc sy’n derbyn gofal â lefelau uwch o anhwylder ymlyniad. Yn yr un modd, mae lefelau uwch o salwch meddwl i’w weld ymhlith rhai sy’n rhan o’r system troseddau ieuenctid. Gall adnabod a mynd i'r afael ag anghenion iechyd meddwl y grwpiau agored i niwed hyn yn gynnar sicrhau eu bod yn gallu integreiddio a chymryd rhan lawn yn yr ysgol ac yn eu cymunedau ehangach. Gall hefyd helpu gydag adsefydlu a lleihau cyfraddau atgwympo ymhlith troseddwyr ifanc. I gefnogi hyn, rydym wedi rhyddhau £250,000 ychwanegol ers 2015-16 i wella'r ffordd y mae CAMHS yn gweithio gyda thimau troseddau ieuenctid.

 

Sipsiwn a Theithwyr

Ym mis Gorffennaf 2015 cyhoeddwyd 'Teithio at Iechyd Gwell'. Mae’n ymateb i dystiolaeth glir fod angen gwella gwasanaethau gofal iechyd a mynediad atynt i Sipsiwn a Theithwyr. Cyfeiria hyn at sawl un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, sef gwella mynediad a phrofiad y claf ac atal afiechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy gynorthwyo ymarferwyr gofal iechyd i weithio'n effeithiol gyda Sipsiwn a Theithwyr. Lluniwyd y canllawiau mewn cydweithrediad â Sipsiwn a Theithwyr ar bob cam ac mae’n rhoi cyngor ar ymarfer proffesiynol a allai annog pobl i gyfranogi mwy ym maes iechyd a gwasanaethau iechyd. Cefnogir canllawiau Teithio at Iechyd Gwell gan nifer o ddulliau o fesur canlyniadau i fyrddau iechyd allu cynorthwyo yn y gwaith o’u gweithredu’n effeithiol. Er bod goblygiadau ariannol yn y flwyddyn gyfredol yn ymylol, yn y tymor hwy, yn dilyn ymgynghori a gweithrediad pellach y canllawiau, efallai y bydd goblygiadau ariannol pellach, yn enwedig o ran sicrhau bod y GIG yn meddu ar wybodaeth, dealltwriaeth a hyfforddiant i staff gofal iechyd mewn perthynas â'r gymuned hon.

 

Ym mis Medi 2015 cyhoeddwyd fframwaith gwasanaeth ar gyfer trin pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a phroblemau oherwydd camddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd. Lluniwyd yr arweiniad hwn i lywio a dylanwadu ar y modd y cyflawnir ymarfer integredig a chydweithredol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau i oedolion, plant a phobl ifanc. Unwaith eto, ystyrir bod y goblygiadau ariannol yn ymylol yn y flwyddyn gyfredol, ond gallai fod goblygiadau pellach o ran y modd y caiff y canllawiau hyn eu rhoi ar waith yn enwedig o ran hyfforddiant a roddir i staff rheng flaen.

 

Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo mewn nifer o feysydd ychwanegol gan gynnwys cefnogi’r broses o gyflwyno concordat Argyfwng rhwng yr Heddlu, y GIG a phartneriaid eraill i wella ymatebion i bobl sy’n cysylltu â'r heddlu ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl, ac yn arbennig, mynd i'r afael ag anghenion iechyd ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

 

Cyn-filwyr

Ers 2014-15 rydym wedi rhyddhau £100,000 ychwanegol yn flynyddol fel rhan o'r buddsoddiad mewn therapïau seicolegol i wella amseroedd aros am driniaeth yn ein gwasanaeth iechyd meddwl i gyn-filwyr, GIG Cymru i Gyn-filwyr. Caiff hyn ei ategu gan waith parhaus rhwng y gwasanaeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn gweithredu canlyniadau adolygiad a gynhaliwyd yn 2014 ac a fydd yn gwneud y gwasanaeth yn fwy ymatebol i anghenion cyn-filwyr sy'n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth. Rhagwelir (gan y Lleng Brydeinig Frenhinol ac elusennau mawr eraill y lluoedd arfog) y bydd y galw am y gwasanaeth yn cynyddu o ganlyniad i frwydro diweddar yn Affganistan ac wrth i niferoedd y rhai sy'n gadael y gwasanaeth godi o ganlyniad i ddileu swyddi milwrol.

 

Mae iechyd meddwl yn 1 o'r 4 maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu cynnar a nodwyd yn fframwaith strategol yr iaith Gymraeg - Mwy na Geiriau. Dangosodd Arolwg Boddhad Defnyddwyr Gwasanaeth (Archwiliad Hanfodion Gofal) ym mis Mehefin 2013 fod 98% o gleifion yn cael gwybodaeth lawn am eu gofal mewn iaith a modd sy'n sensitif i’w hanghenion. Er mwyn cefnogi hyn ymhellach rydym wedi sicrhau bod y pedwar llyfr mwyaf poblogaidd o dan Gynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru wedi cael eu cyfieithu i'r Gymraeg ac ar gael ar CD. Yn lleol, mae mentrau iaith Gymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnwys datblygu llwybr defnyddwyr gwasanaeth dwyieithog i sicrhau bod gweithwyr iechyd meddwl dwyieithog ar gael ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy’n siarad Cymraeg, a nodi anghenion heb eu diwallu.

Bellach, mae Pecyn Cymorth Asesu Gwybyddol Cymdeithas Alzheimer yn cael ei ddefnyddio'n helaeth ar draws gofal sylfaenol fel adnodd diagnostig, a chaiff ei gydnabod yn eang gan gyrff proffesiynol, gan gynnwys Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n parhau i chwarae rhan hanfodol yn cynyddu dealltwriaeth meddygon teulu ac yn hybu gwell dealltwriaeth a rhagoriaeth. Mae defnyddio dewis iaith yn arbennig o bwysig, nid yn lleiaf oherwydd gall y dirywiad sy'n gysylltiedig â dementia olygu na all siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf gyfathrebu'n rhwydd mewn unrhyw iaith heblaw eu mamiaith. Yn ddiweddar, cwblhaodd Prifysgol Bangor gyfieithiad o'r adnodd hwn, sy'n golygu bod mwy o ddewis i glinigwyr a chleifion Cymraeg eu hiaith.

 

Ceir cysylltiad clir rhwng problemau iechyd meddwl a thlodi. Canfu astudiaethau mai ymhlith pobl ag afiechyd meddwl y mae’r gyfradd gyflogaeth isaf o blith unrhyw grŵp o bobl anabl. Mae modd dadlau hefyd eu bod yn dioddef mwy yn sgil tlodi, tai llai addas a mwy o arwahanrwydd cymdeithasol. Mae'n bwysig fod ein hymdrechion i drechu tlodi yn cydnabod hyn. Gwyddom fod lleihau nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl yn bwysig er mwyn cael cymunedau sy’n gweithredu’n iach, gwella cydlyniant a chynhwysiant cymdeithasol a sicrhau ffyniant. Gwyddom mai pobl yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru sydd fwyaf tebygol o ddioddef waethaf yn sgil salwch meddwl a mwy o achosion o salwch meddwl.

 

Mae cyllidebau’n effeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar anfantais economaidd-gymdeithasol, trechu tlodi ac adeiladu cymunedau cynaliadwy, gan gyfrannu at gyflogi pobl yn uniongyrchol ym maes iechyd meddwl, yn enwedig y Trydydd Sector a gefnogir drwy arian grant S64. Mae ein gwaith hefyd yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed drwy hyrwyddo adferiad sy'n eu helpu i fyw’n annibynnol a chymryd rhan yn economaidd. Dengys tystiolaeth mai salwch meddwl yw un o'r prif resymau dros absenoldeb yn y gweithlu ac mae’n ffactor sylweddol yn achos nifer o bobl sy’n economaidd anweithgar yn hirdymor. Mae bod mewn gwaith yn diogelu’n helaeth rhag gorfod byw mewn tlodi. Bydd hybu lles meddyliol a sefydlu gwasanaethau cymorth hygyrch yn lleihau nifer y bobl sy’n methu â gweithio oherwydd salwch meddwl, ac i bobl mewn gwaith, bydd yn ysgogi gwellhad mwy buan, yn lleihau'r amser y byddant yn absennol o'r gwaith ac yn eu galluogi i ddychwelyd i'r gwaith yn gynt. Rydym yn cwblhau manylion rhaglen newydd o gefnogaeth gan gymheiriaid i helpu bron 6,000 o bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl i gael gwaith neu i ddod yn nes at gael gwaith. Cefnogir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Ceir rhaglen arall o gefnogaeth gan gymheiriaid a fydd hefyd yn helpu pobl mewn gwaith sy'n dioddef problemau iechyd i gadw eu gwaith.

 

Un o themâu allweddol ein dull o weithredu yw mynd i'r afael â phroblemau yn gynnar mewn bywyd er mwyn eu hatal rhag datblygu’n broblemau mwy difrifol ar ôl tyfu’n oedolion. Bydd gan 1 o bob 10 o blant rhwng 5 ac 16 oed broblem iechyd meddwl, a bydd llawer mwy â phroblemau ymddygiad. Yn ogystal, mae llawer o blant yn gweithredu fel gofalwyr ac yn gorfod cynorthwyo rhiant/gwarcheidwaid sydd â salwch meddwl eu hunain. Maent angen cymorth i gyflawni eu rôl, gan gynnwys gwybodaeth a chyngor.

 

Ar ben arall y sbectrwm oedran, mae gwella gofal, cymorth ac ymwybyddiaeth o ddementia yn flaenoriaeth allweddol. Mae dementia yn costio cryn dipyn i’r pwrs cyhoeddus a phreifat, gyda’r niferoedd yn cynyddu wrth i'r boblogaeth heneiddio. Gofalwyr sy’n ysgwyddo cyfran fawr o’r gost a gall gyfrannu’n sylweddol at dlodi’r cartref. Mae Dementia UK yn amcangyfrif bod £690m y flwyddyn o incwm yn cael ei golli gan ofalwyr sy'n gorfod rhoi'r gorau i weithio neu leihau oriau gwaith. Mae'r gost yn bersonol hefyd, gan fod y gofalwr yn aml yn gorfod aberthu eu bywyd cymdeithasol er mwyn darparu gofal pwrpasol 24/7.

 

Erys pryderon mewn perthynas â Diwygio Lles yng Nghymru a chynhyrchwyd papur ar effaith diwygio lles ar iechyd pobl â salwch meddwl difrifol gan y sefydliad trydydd sector, Hafal. Mae'r papur yn disgrifio sut y gall y diwygiadau presennol i'r system budd-daliadau lles beri anhawster i bobl yng Nghymru sydd â salwch meddwl difrifol a’r cysylltiad posibl rhwng hyn a'r anghydraddoldebau sy'n bodoli eisoes o ran y canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol y mae’r grŵp hwn o bobl yn eu hwynebu.

 

Tystiolaeth

Mae buddsoddiad rheolaidd ers 2011-12 o £3.5 miliwn yn cefnogi deddfwriaeth iechyd meddwl arloesol Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a gychwynnodd yn 2012. Mae'r buddsoddiad wedi golygu bod Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol yn cael eu darparu’n lleol bellach ledled Cymru. Rhwng mis Ebrill 2013 a mis Medi 2015, cynhaliwyd dros 80,000 o asesiadau iechyd meddwl sylfaenol (nid oedd y gwasanaeth hwn ar gael cyn gweithredu’r Mesur). Nifer cyfartalog yr asesiadau bob mis yw 2,669.

 

Mae'r Mesur hefyd yn sicrhau hawl statudol i gynllun gofal a thriniaeth holistaidd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau mewn gofal eilaidd, adolygiad rheolaidd a hawliau i ailasesu gwasanaethau yn dilyn eu rhyddhau o ysbyty. Rhwng mis Ebrill 2013 a mis Hydref 2015 roedd 24,767 o drigolion Cymru ar gyfartaledd yn cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd bob mis. Hefyd, buddsoddodd y Mesur £1.5 miliwn tuag at sicrhau eiriolaeth i bob claf iechyd meddwl mewnol pa un a ydynt yn gleifion dan gadwad ai peidio.

 

Roedd adran 48 o'r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediad y Mesur at ddibenion cyhoeddi un neu ragor o adroddiadau o fewn pedair blynedd i’w gychwyn. Bydd y ddyletswydd derfynol i lunio adroddiad adolygu yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2015. Mae'r adolygiad wedi defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau gan gynnwys:

 

 

ac yn cefnogi canfyddiadau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod y Mesur wedi gwella gwasanaethau, ond hefyd ei fod wedi sicrhau gwerth am arian, a bod y gwelliannau’n parhau.

Bydd set ddata craidd iechyd meddwl, gan gynnwys canlyniadau o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth, yn gwerthuso effaith y strategaeth. Bydd yn cynnwys mesur canlyniadau o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth a bydd hefyd yn casglu data ethnigrwydd ym mhob un o leoliadau cleifion mewnol seiciatrig y GIG. Rydym yn parhau i ddatblygu hyn gydag Uned Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG a Diverse Cymru

Mae Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl (2012) yn disgrifio sut mae iechyd meddwl yn sbardun allweddol i ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd. Bydd y cynnydd yn y gyllideb iechyd meddwl, i wasanaethau oedolion a phlant fel ei gilydd, yn sicrhau bod Cymru ar y blaen o ran hybu iechyd meddwl da a mynd i'r afael â salwch meddwl pan fydd yn digwydd. Strategaeth integredig ar draws y Llywodraeth yw hi, sy’n sicrhau bod iechyd, gofal cymdeithasol a phartneriaid ehangach megis tai, addysg a gwaith yr heddlu yn cydweithredu i gyflawni ei chanlyniadau. Mae’n oed-gynhwysol ar gyfer plant ac yn ymgorffori Siarter y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Hawliau’r Plentyn yn ei dull o weithredu. Mae’r strategaeth yn ceisio sicrhau gwelliant parhaus ac o ganlyniad, mae’n cynnwys cynlluniau cyflawni tair blynedd ar hyd y deng mlynedd y bydd yn weithredol, er mwyn sicrhau bod y camau nesaf ar gyfer gwella yn cael eu hystyried. Mae wedi ystyried y cynllun ar gyfer y tair blynedd gyntaf ac mae'r canfyddiadau, ochr yn ochr ag ymgysylltiad pwysig â rhanddeiliaid wedi llywio’r cynllun cyflawni nesaf sy’n cael ei ddrafftio ar gyfer y cyfnod 2016-19. Bydd y cynllun hwn yn destun ymgynghoriad ffurfiol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2016 ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2016.

 

Ystyrir bod gan bobl â phroblemau iechyd meddwl anabledd, felly i bob pwrpas mae’r strategaeth hon yn anelu at estyn yn gadarnhaol i galon y broses o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Caiff materion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg eu hystyried yn llawn mewn perthynas â'r Strategaeth a'i chynllun cyflawni ac ar gyfer y rhai sydd â’r angen mwyaf, rhoddir sylw arbennig, er enghraifft, i bobl â dementia sydd ag angen clinigol am asesiad yn eu hiaith gyntaf.

 

Bydd y buddsoddiad hwn yn effeithio’n uniongyrchol ar ddatblygiad economaidd hirdymor Cymru drwy greu swyddi arbenigol o ansawdd uchel yn y GIG. Bydd hefyd yn helpu i chwyddo’r gweithlu ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, mae disgwyl i'r gweithlu nyrsio yn CAMHS gynyddu tua dwy ran o dair o ganlyniad i'r buddsoddiad hwn.

 

Yn fwy cyffredinol, bydd y buddsoddiad yn cefnogi amcanion trechu tlodi drwy wella cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc, sy’n ganolog i’r cynlluniau gwariant. Dengys tystiolaeth y gellir priodoli’r cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn y blynyddoedd diwethaf (gyda mwy na 100% o gynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau dros bedair blynedd), yn rhannol i atgyfeiriadau ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol. Caiff £2m o gyllid ei dargedu at ddatblygu gwasanaethau i wneud diagnosis a thrin y cyflyrau hyn a fydd yn sicrhau manteision uniongyrchol i gyrhaeddiad pobl ifanc yn sgil eu gallu i gymryd rhan yn llawn yn eu haddysg. Hefyd, targedir cyllid tuag at bobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol, y dangosodd ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai fod ganddynt lefelau uwch o anghenion iechyd meddwl. Bydd sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mewn modd amserol yn gostwng lefelau aildroseddu ymhlith y grŵp hwn gan hyrwyddo’r broses o’u hadsefydlu yn y gymdeithas.

 

Ar gyfer oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl, mae’r buddsoddiad hwn yn cefnogi adferiad pobl a’u cadw mewn gwaith os ydynt yn datblygu problemau iechyd meddwl ac yn eu caniatáu i ailymgysylltu â'r gweithle wrth iddynt wella. Bydd hyn yn cefnogi datblygiad economaidd fel y gwna cymorth i'w gofalwyr allu parhau yn y gweithle er mwyn lleihau tlodi.

 

Mae cyfran sylweddol o'r buddsoddiad iechyd meddwl newydd ar gyfer 2015-16 (£5.5m) wedi’i dargedu tuag at gefnogi a gwella gwasanaethau dementia, cyflwr sy’n effeithio’n fwyaf penodol ar bobl hŷn, sy’n boblogaeth â nodwedd warchodedig. Mae hyn yn cynnwys £4.05m i helpu i sefydlu timau cyswllt seiciatrig ym mhob ysbyty cyffredinol dosbarth yng Nghymru i gynorthwyo staff i ddarparu asesiadau iechyd meddwl amserol a lleihau hyd arhosiad a chyfraddau aildderbyn i’r ysbyty, £500,000 o fuddsoddiad newydd ar gyfer gweithwyr cymorth Therapi Galwedigaethol mewn unedau iechyd meddwl i bobl hŷn er mwyn gwella gweithgareddau dydd ac ansawdd gofal a £800,000 o gyllid newydd ar gyfer Gweithwyr Cymorth Dementia Gofal Sylfaenol. Hefyd, roedd £240,000 o gyllid anghylchol ar gyfer sesiynau nyrsys cyswllt dementia i gynyddu cyfraddau diagnosis a hyfforddiant ar gyfer staff cartrefi gofal.

 

Mae poblogaeth Cymru yn heneiddio ac o ganlyniad, bydd nifer yr achosion o ddementia yn cynyddu. Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Gymdeithas Alzheimer, ar gyfer ei hail argraffiad o’r adroddiad Dementia UK, yn dangos y bydd 850,000 o bobl ynbyw gyda dementia yn y DU erbyn 2015. Mae hyn yn costio £26 biliwn y flwyddyn i’r DU. Telir dwy ran o dair (£17.4 biliwn) o gost amcangyfrifedig dementia gan bobl â dementia a'u teuluoedd, naill ai drwy ofal di-dâl (£11.6 biliwn) neu drwy dalu am ofal cymdeithasol preifat. Mae gwella gwasanaethau i bobl sy'n dioddef o ddementia nid yn unig yn gwella ansawdd eu bywydau hwy, mae hefyd yn gwella ansawdd bywydau aelodau teuluol sy'n gorfod ysgwyddo’r baich a’r gost o ofalu amdanynt, gyda llawer ohonynt yn gorfod rhoi'r gorau i weithio er mwyn cynorthwyo eu perthnasau. Bydd hyn yn effeithio ar ansawdd eu bywydau eu hunain ac felly bydd buddsoddi mewn gwasanaethau newydd yn atal tlodi ymysg y boblogaeth ehangach hefyd ac yn hyrwyddo blaenoriaethau Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

 

O ran y nodweddion gwarchodedig eraill, gellir dangos y bydd y buddsoddiad a ddarperir o 2015-16 yn creu manteision ehangach. Yn benodol, bydd darparu cyllid newydd o £1.5m ar gyfer gwasanaethau amenedigol (nodweddion gwarchodedig mamolaeth a phlant) yn gwella proses ymlyniad rhwng y fam a'r plentyn y gwyddys ei bod yn gwella canlyniadau ar gyfer y plentyn a'r teulu ac yn atal risgiau o broblemau yn ddiweddarach mewn bywyd. Defnyddir yr arian i sefydlu gwasanaethau amenedigol arbenigol yn y gymuned ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru.

 

Rydym hefyd yn darparu £3 miliwn (£1.9m ar gyfer oedolion ac £1.1m ar gyfer plant) i wella mynediad at therapïau seicolegol. Mae'r Pwyllgor Rheoli Therapïau Seicolegol Cenedlaethol wedi cynhyrchu cynllun gweithredu sy'n darparu adnodd i gynorthwyo byrddau iechyd i ddatblygu gweithlu gyda'r cymwyseddau i ddarparu therapïau seicolegol. Mae byrddau iechyd wedi cyflwyno eu cynigion gan ddefnyddio'r fframwaith hwn er mwyn dangos sut y maent yn bwriadu gwella mynediad at therapïau seicolegol. Mae'r fenter hefyd yn cefnogi unigolion a allai fod wedi dioddef stigma a gwahaniaethu o ganlyniad i gyfeiriadedd rhywiol, anabledd, hil, crefydd a chred, gan gyfrannu at gydlyniant cymunedol.

 

Mae integreiddio a chydweithio yn ganolog i'r gwaith hwn, yn enwedig o ran cymorth gofal mwy hirdymor ar gyfer pobl hŷn â dementia, lle mae’r ddarpariaeth dai a gofal a chymorth awdurdodau lleol yn rhan o'r pecyn ehangach o gymorth ar gyfer y gymuned hon. Hefyd mewn perthynas â darparu ar gyfer iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, lle rydym yn buddsoddi £7.65m, a lle mae darpariaeth y GIG yn un rhan o wasanaeth sy'n rhychwantu gwaith ieuenctid, gwasanaethau plant Awdurdodau Lleol a gwasanaethau cymdeithasol, cwnsela ysgolion ac eraill.

 

Datblygwyd cynigion ariannu o ganlyniad i dystiolaeth o'r angen i wella darpariaeth y Comisiynydd Plant, ymchwiliadau pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ymchwiliadau AGIC/Swyddfa Archwilio Cymru ac adborth arall gan randdeiliaid.

 

Ceir disgwyliad cyffredinol bod defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan weithredol ac yn cydgynhyrchu fel partneriaid cyfartal yn eu dewisiadau gofal eu hunain ac yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau. Mae defnyddwyr gwasanaeth yn cyfrannu eu safbwyntiau drwy gyfranogi ar fyrddau partneriaeth lleol a chenedlaethol yn ogystal â rhanddeiliaid a grwpiau eraill, gyda fforwm Cenedlaethol Defnyddwyr Gwasanaethau, sydd â gofynion penodol er mwyn sicrhau bod pobl o grwpiau gwarchodedig megis pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ac ati wedi’u cynrychioli ar y fforwm, yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn. Gwneir gwaith hefyd gan Wasanaeth Gwella 1000 o Fywydau Iechyd Cyhoeddus Cymru, y trydydd sector a defnyddwyr gwasanaeth ar gynhyrchu dulliau o fesur canlyniadau'n seiliedig ar nodau defnyddwyr gwasanaeth sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gwasanaeth roi gwybod am eu canfyddiad o’r modd y cyflawnir canlyniadau sy'n bwysig iddynt.

 

Gwelliant Parhaus

Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn ein galluogi i fesur llwyddiant ein gwaith drwy ystod o ddulliau o fesur canlyniadau, yn cynnwys rhai sy’n benodol i iechyd meddwl yn ogystal â dangosyddion mwy cyffredinol o newid ehangach.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae pobl iau, pobl hŷn a phobl anabl yn fwy tebygol o ddibynnu ar y gofal cymdeithasol a ddarperir gan wasanaethau cyhoeddus. Yn y cyd-destun hwn dengys rhagolygon y bydd newidiadau demograffig a disgwyliadau cynyddol ymysg y cyhoedd ochr yn ochr â chynnydd yn yr achosion o gyflyrau penodol sy’n fwy cyffredin ymhlith pobl hŷn, megis dementia, yn cynyddu pwysau ar gostau gofal. Gwyddom fod gofalwyr, pobl anabl ac eraill sy'n agored i niwed yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi a phrofi allgáu cymdeithasol. Ar yr un pryd mae’r un tueddiadau hyn yn awgrymu y gallai mesurau ataliol wella lles ac arbed arian cyhoeddus dros y tymor hwy o dan yr amgylchiadau cywir. Mae'r dadansoddiad hwn yn cefnogi ein penderfyniad i gynnwys gwasanaethau cymdeithasol ymhlith yr ystyriaethau allweddol ar gyfer y Gyllideb Ddrafft hon.

 

Mae ein penderfyniad i ddyrannu £21m ychwanegol i'r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn cydnabod pwysigrwydd canolbwyntio ar gefnogi a chyflymu newid trawsffurfiol ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn rhoi sylw i'r heriau hyn, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarpariaeth rheng flaen.

 

Mae ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol wedi’u hymgorffori yn y rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru a gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae'r rhain yn gosod pwyslais ar les pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth ochr yn ochr â sicrhau bod gan bobl lais llawer cryfach a mwy o reolaeth dros y gwasanaethau y maent yn eu cael, symleiddio'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, a gwella lles yr holl bobl sy'n byw yng Nghymru.

 

Drwy amddiffyn rhaglenni hanfodol megis y rhaglen Cefnogi Pobl rydym wedi cydnabod cyfraniad pwysig gofal cymdeithasol i’r bobl fwyaf agored i niwed, boed am resymau’n ymwneud â henaint, anabledd neu'r angen i amddiffyn plant. Mae'r rhaglen hon nid yn unig yn darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai ar gyfer rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed ac wedi'u hallgáu'n gymdeithasol ond mae hefyd yn helpu unigolion a theuluoedd sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref i ddod o hyd i gartref a’i gadw, ac i fyw'n annibynnol, yn ogystal â gwneud cyfraniad o bwys i’n hagenda Trechu Tlodi. Mae'r rhaglen yn enghraifft o’r camau y gellir eu cymryd i atal neu leihau'r angen am ymyriadau mwy costus gan y GIG a/neu ofal cymdeithasol. Mae'n helpu unigolion a theuluoedd ac mewn rhai achosion, yn cynorthwyo pobl sy'n dod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol.

 

Roedd gwariant cyhoeddus gros ar ofal cymdeithasol yn fwy na £19.6 biliwn yn 2014-15, gyda £0.2 biliwn wedi’i godi mewn ffioedd gan fod cymaint o wasanaethau cymdeithasol i oedolion yn ddarostyngedig i brawf modd. Mae’r gwariant hwn bron i gyd yn cael ei ariannu gan lywodraeth leol. Mae pwysau demograffig yn sgil cynnydd yn y disgwyliad oes ymhlith pobl hŷn a phobl sy'n anabl, ynghyd â thwf yn y galw am wasanaethau i blant, wedi golygu bod gwariant ar wasanaethau cymdeithasol wedi mwy na dyblu ers 2001-02. Mae dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol ac mae’r ddarpariaeth yn gymysgedd o ddarpariaeth uniongyrchol a gwasanaethau a gomisiynir gan ddarparwyr y sector annibynnol a'r trydydd sector.

 

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol wedi darparu cyllid ar gyfer cefnogi'r gwaith o gyflawni'r fframwaith deddfwriaethol, gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau, awdurdodau lleol, y trydydd sector, y sector annibynnol a phartneriaid eraill i gydgynhyrchu cyfeiriad strategol ar gyfer y sector yng Nghymru, a meithrin a chyflymu newid trawsffurfiol yn y ffordd y mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu i ddinasyddion Cymru fel y nodir yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. Bydd y ffocws ar gyfer 2016-17 ar sicrhau bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cael ei gweithredu.

 

Mae'r gyllideb ar gyfer 2016-17 yn cynnwys trosglwyddo £27m o’r Adran Gwaith a Phensiynau i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Gronfa Byw'n Annibynnol.

 

Effeithiau

Mae cyllidebau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn cefnogi gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae'r Ddeddf yn darparu’r fframwaith statudol ar gyfer cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau y darperir gofal a chymorth i bobl o bob oed, fel rhan o deuluoedd a chymunedau. Mae'r Ddeddf yn gosod ffocws sylweddol ar wella canlyniadau a lles drwy gamau ataliol ac ymyrraeth gynnar, yn enwedig er mwyn sicrhau gofal a chymorth i ddiwallu anghenion pobl sy'n agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys plant, pobl hŷn, gofalwyr a phobl ag anableddau.

Mae gweithredu a datblygu rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau statudol sy’n deillio o'r Ddeddf wedi bod yn flaenoriaeth wrth baratoi ar gyfer y dyddiad y daw i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae'r ffocws ar gynyddu gwasanaethau cymdeithasol ataliol ac ymyrraeth gynnar yn ganolog i Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu, ac mae dyletswyddau a phwerau i weithredu’r newid hwn bellach wedi’u gwneud yn gyfraith drwy'r Ddeddf.

 

Mae deddfwriaeth bellach i wella ansawdd gofal ar gyfer pobl sy'n agored i niwed yn cael ei datblygu drwy’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) a fydd yn gwneud newidiadau i rôl arolygu, a lle bo angen, yn cryfhau'r gallu i fynd i'r afael â methiannau gwasanaethau fel y rhai a ganfuwyd gan Operation Jasmine yn narpariaeth cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio ar draws Gwent ar ddechrau’r 2000au.

 

Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn rhan sylweddol o'r farchnad lafur yng Nghymru. Yn 2015-16, darparodd Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol £7.15 miliwn i’w fuddsoddi mewn hyfforddiant i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar gyfer gwella ansawdd a rheolaeth y ddarpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, gan ganolbwyntio yn 2015-16 ar eu paratoi ar gyfer newidiadau’n deillio o'r Ddeddf. Darperir y rhan fwyaf o'r arian grant hwn yn uniongyrchol i Awdurdodau Lleol. Darperir £1m o'r grant i Gyngor Gofal Cymru i ariannu’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen hyfforddi genedlaethol ar gyfer gweithredu'r Ddeddf.

 

Y bwriad yw sicrhau y bydd y bobl sy’n derbyn arian o’r Gronfa Byw'n Annibynnol ar hyn o bryd yn parhau i gael cefnogaeth yn sgil trosglwyddo'r cyllid. Yn y tymor byr mae’r cyllid a drosglwyddwyd yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i'w galluogi i barhau i roi cymorth ariannol i’r rhai a arferai dderbyn taliadau o’r Gronfa. Yn 2016 bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynrychiolwyr rhanddeiliaid ar drefniadau datblygu hirdymor.

 

Ymgysylltu

Mae cydgynhyrchu polisïau gwasanaethau cymdeithasol newydd gyda defnyddwyr gwasanaeth, gweithwyr proffesiynol a phob partner darparu wedi ei ymgorffori yn y Rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy a phob un o'r newidiadau deddfwriaethol a nodir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). Mae Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, a sefydlwyd gan y cyn Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn parhau i ddod ag arweinwyr gwleidyddol ac arweinwyr anweithredol at ei gilydd o bob rhan o'r system gofal cymdeithasol ac iechyd er mwyn llunio agenda ar y cyd ar gyfer newid. Mae’r panel dinasyddion gwasanaethau cymdeithasol cenedlaethol ar gyfer Cymru yn dod â phrofiad uniongyrchol defnyddwyr gwasanaethau i ganol y broses o lunio polisïau Llywodraeth Cymru. Defnyddiwyd ymgynghoriadau ffurfiol yn rhan o'r gwaith o ddatblygu a llunio diwygiadau deddfwriaethol i wasanaethau cymdeithasol a chynhaliwyd asesiadau effaith ar bob darn o is-ddeddfwriaeth.

 

Ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy weithdy a fynychwyd gan oddeutu 200 o gynrychiolwyr a chyda chynrychiolwyr y Trydydd Sector, gan gynnwys Cynghrair y Cynghreiriau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sefydlwyd Grant newydd i’r Trydydd Sector ar gyfer 2016-17 yn sail i'r gwaith o gyflawni Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Yn dilyn cylch ceisiadau cystadleuol, bydd cyllid yn cael ei ddarparu i sefydliadau'r Trydydd Sector i helpu i gyflawni’r ddeddfwriaeth a’r polisi.

 

Tystiolaeth

Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn cefnogi tua 80,000 o oedolion, gan ddarparu gofal statudol i bobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau corfforol a dysgu a phobl hŷn eiddil. Cafodd dros 35,000 o blant yng Nghymru eu hatgyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol yn 2014-15. Mae cofrestrau amddiffyn plant yn cofnodi 2,940 o achosion o esgeulustod, a cham-drin emosiynol, corfforol a/neu rywiol. Ceir 5,615 blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.

 

Mae'r rhagolygon ariannol yn anodd. Mae'r Rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy a gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn canolbwyntio ar gefnogi a chyflymu newid trawsffurfiol ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn rhoi sylw i'r heriau hyn a sicrhau bod gwasanaethau yn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar.

 

Gwelliant parhaus

Ymgorfforwyd blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn y Rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod dinasyddion yn cael llais llawer cryfach a mwy o reolaeth dros y gwasanaethau y maent yn eu derbyn, symleiddio'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu, a gwella lles pob un o’n dinasyddion. Ffocws penodol ar gyfer 2016-17 fydd gweld Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym.

 

Iechyd y Cyhoedd

Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda phobl er mwyn helpu i ddiogelu eu hiechyd wrth iddynt fynd yn hŷn. Drwy ddiogelu ein buddsoddiad mewn iechyd cyhoeddus rydym wedi ymrwymo i ddarparu mwy o reolaeth dros iechyd a lles a mynediad cyflymach at gyngor a gwasanaethau ar gyfer y rhai sydd fwyaf o’u hangen.

 

Bydd cyllidebau ar gyfer hybu iechyd, diogelu iechyd a mesurau ataliol yn cynyddu yn 2016-17. Mae'r cynnydd yn adlewyrchu ehangiad rhaglenni iechyd cyhoeddus megis imiwneiddio a sgrinio. Mae enghreifftiau o effaith y rhaglenni hyn yn cynnwys tua 35,000 o blant yng Nghymru yn cael brechiadau sylfaenol a phigiadau atgyfnerthu bob blwyddyn, mwy na 400,000 o bobl 65 oed neu hŷn yn cael brechiadau rhag y ffliw a darparu gwasanaethau Sgrinio Retinopathi Diabetig i fwy na 111,000 o gleifion. Gyda'r gwasanaethau hyn, y nod yw cyffredinoliaeth gymesur, gan helpu pawb yn y gymuned, ond targedu cymorth yn unol â'r angen. Felly, er enghraifft, gwneir mwy o ymdrech ar hyn o bryd tuag at wneud yn siŵr fod grwpiau nad ydynt yn manteisio ar gyfleoedd sgrinio iechyd yn cael cymorth i wneud hynny.

 

At ei gilydd, mae'r cynnydd yn y cyllid i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn deillio o drosglwyddo cyllideb ac ymrwymiadau i’r dyraniad cyllid craidd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r cyllid craidd yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflawni ei swyddogaethau fel y’u nodir yn y ddeddfwriaeth, gan gynnwys gwasanaethau sy'n cwmpasu gwella a diogelu iechyd, gwybodaeth ac ymchwil iechyd y cyhoedd, a rhaglenni sgrinio poblogaeth cenedlaethol ar gyfer pobl Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r gwaith o gyflawni llawer o'r camau gweithredu mewn perthynas â gwella iechyd y cyhoedd a lleihau anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes iach.

 

Bydd trosglwyddo cyllid imiwneiddio ychwanegol yn cynyddu'r cyllidebau imiwneiddio presennol ym mhob Bwrdd Iechyd ac yn gynrychiadol o’r rhaglen imiwneiddio sy'n ehangu yng Nghymru. Mae'r ehangiad yn cynnwys imiwneiddiadau rotafirws a ffliw i blant; rhaglen frechu reolaidd newydd rhag yr eryr ar gyfer pobl dros 70 oed, a chyflwynwyd rhaglen dal i fyny am amser cyfyngedig am y tro cyntaf ar gyfer rhai sy’n dechrau mewn prifysgol o dan 25 oed sydd mewn mwy o berygl o ddal Llid yr Ymennydd C. Mae Byrddau Iechyd wedi bod yn derbyn cyllid canol blwyddyn ychwanegol ar gyfer imiwneiddio mewn blynyddoedd blaenorol, felly nid yw’r trosglwyddiad hwn ond yn cadarnhau trefniadau sydd eisoes wedi bod ar waith ers peth amser a bydd yn awr yn caniatáu i Fyrddau Iechyd gynllunio gyda mwy o sicrwydd ar gyfer y maes polisi pwysig hwn. Mae imiwneiddio yn wasanaeth cyffredinol. Y nod yw creu "imiwnedd torfol", gan warchod pob rhan o'r gymuned yn gyfartal.

 

Gall camau gweithredu iechyd y cyhoedd gyfrannu at yr agenda gofal iechyd darbodus, a gwella effaith gwariant drwy hynny, er enghraifft drwy:

·         helpu i rymuso pobl a’u cymunedau i gael mwy o reolaeth ar eu hiechyd ar sail cydgynhyrchu;

·         datblygu camau ataliol ac ymyriadau cynnar effeithiol a all osgoi problemau drud yn nes ymlaen.

Er enghraifft, mae'r cyllid ar gyfer Gwasanaeth Cymorth Galwedigaethol y GIG (£0.163m) yn seiliedig ar y cysylltiad rhwng iechyd a lles y staff ac ansawdd y modd y darperir gwasanaethau. Mae'n cefnogi ymdrechion i leihau effaith absenoldeb oherwydd salwch ar y GIG yng Nghymru drwy ddarparu cymorth arbenigol i feddygon, sy'n dioddef mwy o achosion o broblemau iechyd meddwl cyffredin na grwpiau proffesiynol eraill.

 

Mewn cyfnod o galedi, ac yng ngoleuni’r ffaith fod gennym boblogaeth sy’n cynyddu ac yn heneiddio gan arwain at fwyfwy o alw ar y GIG, ein polisi yw symud oddi wrth ffocws ar salwch a gorddibyniaeth ar ysbytai. Ein dull yw helpu dinasyddion i fod yn gyfrifol am eu hiechyd a'u lles drwy’r dull cydgynhyrchu, yn ogystal â datblygu GIG sy’n cael ei arwain gan ofal sylfaenol a chymunedol ataliol. Ceir pwyslais cryf ar ailgynllunio gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol wrth i anghenion y boblogaeth gael eu nodi. Manteisir ar bob cyfle i sicrhau bod gwasanaethau yn gweithio fel timau effeithiol gyda ffocws ar y cyd ar anghenion unigolion a chymunedau lleol, gan ddarparu gwell iechyd ymhlith y boblogaeth drwy ofal sylfaenol a chymunedol cryfach mewn partneriaeth â'r rhan sy’n rhaid i'r cyhoedd ei chwarae hefyd yn eu hiechyd a’u lles eu hunain. Mae cefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy ei Dîm Cynghori Gofal Meddygol Sylfaenol, Gwasanaeth Ansawdd a Gwybodaeth Gofal Sylfaenol ac Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus yn hanfodol ar gyfer y gwaith hwn, gan gynnwys camau i liniaru anghydraddoldebau ac effeithiau tlodi ac yn benodol, i wrthdroi'r 'ddeddf gofal wrthgyfartal' .

 

Yn gynyddol, y nod yw ailffocysu gwasanaethau ar wella iechyd a lles i bawb, gyda chyflymder y gwelliant yn cynyddu’n gymesur â lefel yr anfantais. Mae'r ymrwymiad hwn yn golygu cadw ein dyhead i wella disgwyliad oes iach i bawb ac i gau'r bwlch rhwng pob cwintel amddifadedd 2.5% ar gyfartaledd, ond gan chwilio am ffyrdd newydd o ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael. Mae ein gwaith hefyd yn cynnal un o'r tri amcan strategol yn y Strategaeth Tlodi Plant, sef lleihau'r anghydraddoldebau sy'n bodoli ar hyn o bryd ym maes iechyd, addysg a chanlyniadau economaidd i blant a theuluoedd sy'n byw mewn cartrefi incwm isel.

 

Rydym yn ariannu ymgyrchoedd â blaenoriaeth, prosiectau a gwasanaethau sy'n targedu gwelliannau at rai mewn angen, megis y cynllun budd-dal Cychwyn Iach (£8.5m) sy'n darparu rhwyd ​​ddiogelwch faethol i fenywod beichiog a phlant ifanc mewn teuluoedd difreintiedig. Mae cymorth parhaus tuag at gostau'r rhaglen imiwneiddio yn faes allweddol o wariant ataliol (£17.6m) a cheir buddsoddiad hefyd mewn data o ansawdd uchel ar lefel genedlaethol a lleol megis polisïau Arolwg Iechyd Cymru i gefnogi penderfyniadau buddsoddi ac olrhain effaith polisïau. Mae nifer o linellau cyllideb yn ymwneud â noddi cyrff cyhoeddus fel Iechyd Cyhoeddus Cymru (£80.5) ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr (£0.5m), gyda'r cyntaf yn gweld cynnydd o £4.4m yn 2016-17.

 

Mae'r datblygiadau newydd ym maes cynllunio iechyd a gofal sylfaenol yn creu sylfaen ar gyfer canolbwyntio’n well ar anghenion y boblogaeth gyfan. Bydd cynllunio ar sail ardaloedd bach yn galluogi gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol i dargedu gwahanol anghenion grwpiau gwahanol yn well a cheir parodrwydd cynyddol ar draws y GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol i rannu gwybodaeth a chyfuno ymdrechion i wella iechyd a lles y boblogaeth gyfan. Dylai datblygu cynllunio ar gyfer poblogaethau ardaloedd bach effeithio’n gynyddol ar gynllun gwasanaethau ac ar iechyd dros y blynyddoedd nesaf.

 

Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda phobl er mwyn helpu i ddiogelu eu hiechyd wrth iddynt fynd yn hŷn. Mae'r archwiliad iechyd newydd i bobl dros 50 oed yn cynnig cyngor hygyrch iawn i bawb dros 50 oed ynglŷn â’u hiechyd a ffynonellau cymorth sy'n darparu mwy o reolaeth i ddefnyddwyr a dargedir dros eu hiechyd a'u lles, mynediad cyflymach at gyngor a gwasanaethau a help i oresgyn problemau llythrennedd iechyd. Cafodd y gwasanaeth ei dreialu mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf er mwyn sicrhau sylfaen gref iddo yno ac er mwyn sicrhau y gellir dod o hyd iddo a’i ddefnyddio’n hawdd.

 

Rydym hefyd yn cydnabod bod y gwasanaeth iechyd a'r sector iechyd ehangach yn chwarae rhan hanfodol fel sylfaen ac ysgogiad i’n heconomi, gan helpu i fynd i'r afael ag amddifadedd economaidd a lleihau rhesymau economaidd dros afiechyd. Mae’r GIG yn rhan bwysig iawn o’r economi genedlaethol o ran cyflogaeth, caffael, buddsoddi cyfalaf ac arloesi. Yn gynyddol, manteisir ar y cyfleoedd i ddefnyddio dylanwad a chyllideb y GIG i ddylanwadu ar obeithion pobl o gael iechyd da drwy well cyflogaeth a chyfrannu at ffyniant. Mae ein rhaglenni yn ceisio lliniaru effaith tlodi a gwella cyfleoedd bywyd pobl gan gefnogi amcanion a amlinellir yng Nghynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru.

 

Rydym hefyd yn cydnabod bod y gwasanaeth iechyd a'r sector iechyd ehangach yn chwarae rhan hanfodol yn sail i ysgogi ein heconomi, helpu i fynd i'r afael ag amddifadedd economaidd a lleihau rhesymau economaidd dros afiechyd. Mae'r Is-adran Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn darparu seilwaith ar gyfer cefnogi a chynyddu gallu ym maes Ymchwil a Datblygu, yn arwain nifer o gynlluniau ariannu ymatebol ac yn rheoli dyraniad cyllid Ymchwil a Datblygu y GIG. Mae darganfyddiadau blaengar niferus drwy ymchwil wedi arwain at ffyrdd newydd ac arloesol o atal a thrin afiechyd, lleihau niwed/gwastraff/amrywio, a threchu tlodi ac anghydraddoldeb, yn ogystal â chyllid parhaus yr elfen ymchwil a datblygu o arloesi mewn gofal iechyd. Yn 2015 cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fuddsoddiad o £10m ar gyfer cronfa i hyrwyddo Effeithlonrwydd Drwy Dechnoleg yn y GIG yng Nghymru. Bydd y gronfa hon yn parhau yn 2016-17 a'i nod yw cyflymu'r broses o arddangos, gwerthuso a mabwysiadu cynhyrchion a gwasanaethau newydd mewn ymarfer, gan gynyddu effeithlonrwydd a darparu gwell canlyniadau i gleifion, yn unol ag egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus.

 

Ymgysylltu

Argymhellodd y Bwrdd Gweithredu Gofal Diwedd Oes y dylid trosglwyddo arian Hosbisau am ei fod yn ystyried y byddai’n fwy priodol i’r arian hwn gael ei ddosbarthu a’i reoli gan y byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd. Câi'r gymuned hosbis ei chynrychioli ar y Bwrdd Gweithredu Gofal Diwedd Oes gan Hosbisau Annibynnol Cymru, y corff sy’n cynrychioli hosbisau yng Nghymru. Cynhaliwyd gweithdy fis Rhagfyr diwethaf lle bu darparwyr hosbisau, ac arweinwyr gofal lliniarol byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn trafod trefniadau gwaith a materion ariannu. O 1 Ebrill 2015, trosglwyddwyd cyllid hosbisau i’r byrddau iechyd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal rôl fonitro dros gyllid i hosbisau.